Text Box: Carl Sargeant AC 
 Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol 
 Llywodraeth Cymru

 

8 Gorffennaf 2015

Annwyl Carl

Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014

Ar 12 Mawrth 2015 cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn graffu ôl-ddeddfwriaethol fer ynglŷn â Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014.

Nodaf isod ein casgliadau cychwynnol ynghyd â nifer o gwestiynau y byddem yn gwerthfawrogi eich ymateb iddynt. Mae rhai o'r cwestiynau hyn yn ymwneud â materion nad ydynt wedi’u cynnwys yn y Ddeddf, ond maent yn ymwneud â’ch dull polisi ehangach tuag at reoli ceffylau.

1. Craffu ar y Mesur

 1.1  Nid ydym wedi cael unrhyw dystiolaeth argyhoeddiadol i gefnogi rhoi’r Bil drwy weithdrefnau craffu'r Cynulliad ‘ar y trywydd cyflym'. Credwn fod cyfiawnhad i’r pryderon a godwyd gan y Pwyllgor hwn am osgoi’r broses ddemocrataidd ddyledus ac rydym yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru (a Llywodraethau Cymru yn y dyfodol) yn cyflwyno achos mwy argyhoeddiadol dros beidio â gwneud Bil yn destun gwaith craffu Cyfnod 1 yn y dyfodol. Wrth ddod i’r casgliad hwn rydym yn cydnabod mai penderfyniad eich rhagflaenydd oedd hwn.

2. Cynllun Ymgysylltu a Chyfathrebu

 2.1  Roedd y cynllun gweithredu a oedd yn cyd-fynd â’r Bil yn addo 'cynllun ymgysylltu a chyfathrebu'.

 2.2  A fyddech cystal â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf inni am ddatblygiad y cynllun hwn a manylion ynglŷn â phryd y gallwn ddisgwyl iddo gael ei gyhoeddi?

3 Costau i drydydd partïon

 3.1  A allwch chi roi manylion inni am y costau a ysgwyddwyd gan drydydd partïon yn eu gwaith o helpu awdurdodau lleol i ddefnyddio eu pwerau o dan y Ddeddf?

4. Adnoddau awdurdodau lleol

 4.1  Roedd y dystiolaeth a gawsom yn awgrymu bod rhai awdurdodau lleol yn wynebu anawsterau wrth ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael iddynt oherwydd cyfyngiadau ar adnoddau ac arbenigedd.

 4.2  A ydych yn bwriadu darparu unrhyw adnodd canolog (o ran offer arbenigol a phobl fedrus a hyfforddiant, yn ogystal ag arian) i gynorthwyo awdurdodau lleol a'u hannog i ddefnyddio eu pwerau o dan y Ddeddf?

5. Cronfa ddata ceffylau ganolog

 5.1  A fyddech cystal â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at sefydlu cronfa ddata ceffylau ganolog newydd a sut yr ydych wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu'r gronfa ddata?

 5.2  A allwch gadarnhau bod profiad awdurdodau lleol Cymru yn cael ei ddefnyddio yn ei datblygiad a rhoi manylion ynglŷn â sut y cafodd eu profiad eu cynnwys yn y broses?

6. Microsglodynnu ceffylau - rhanddirymiadau

 6.1  Lleisiodd rhai rhanddeiliaid gefnogaeth i gael gwared â’r rhanddirymiad i geffylau mewn rhai ardaloedd dynodedig aros heb basbort neu ficrosglodyn. Yn benodol, clywsom y byddai hyn yn ei gwneud yn haws i adnabod ceffylau wedi'u gadael ar dir comin. Rydym yn sylweddoli bod rhesymau da dros wneud y rhanddirymiadau pan gyflwynwyd rheoliadau adnabod ceffylau am y tro cyntaf, ond yn sgil y farn hon gan randdeiliaid gallwn weld rhywfaint o fudd mewn adolygu'r rhanddirymiadau.

 6.2  Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i ddeall effeithiau rhanddirymiad ac a oes gennych gynlluniau i adolygu’r rhanddirymiad hwn?

 

 

7. Casgliadau

7.1  Mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym fod y ddeddfwriaeth hon yn offeryn defnyddiol i fynd i'r afael â'r mater o bori anghyfreithlon a gadael ceffylau mewn rhannau o Gymru. Fodd bynnag, mae awdurdodau lleol mewn sawl rhan o Gymru yn brin o'r adnoddau a'r arbenigedd i ddefnyddio eu pwerau o dan y Ddeddf hon. Rydym yn derbyn mai dim ond un rhan o'r dull o fynd i'r afael â phori anghyfreithlon a gadael ceffylau yw’r Ddeddf hon. Wedi dweud hynny, os yw’r ddeddfwriaeth hon i chwarae ei rhan yn llawn wrth fynd i'r afael â'r mater difrifol hwn, credwn fod angen i Lywodraeth Cymru roi ystyriaeth bellach i'r adnoddau a'r arbenigedd y mae’n eu darparu i awdurdodau lleol.

7.2 Gall atebion i'r cwestiwn a ofynnwyd uchod roi sicrwydd i ni ar y pwynt olaf hwn. Edrychaf ymlaen at gael eich ymateb.

Yn gywir

Description: P:\OPO\Committees\Committees (2011-2016)\Env & Sustainability\Correspondence\Chair's correspondence\Alun Ffred Jones sig.jpg

Alun Ffred Jones AC

Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd